Cynnyrch Cwyr

Mae cwyr gwenyn yn cael ei chynhyrchu gan wenyn mêl. Mae’r cynnyrch cwyr yn cynnwys 284 wahanol gyfansoddyn yn bennaf alcanau, asidau, esterau, esterau poly ac esterau hydroxy, ond mae cyfansoddiad y cynnyrch yn newid o safle i safle. Rydym yn sicrhau nad yw ein cychod gwenyn yn cael ei leoli drws nesaf i gnwd sydd yn cael ei chwistrellu gan blaladdwyr. Nid ydym yn defnyddio unrhyw gemegau. Mae ein cwyr gwenyn yn cael eu cynhyrchu yn organig, ond gyda phob cynnyrch mêl a chwyr gwenyn yn y Deyrnas Unedig, nid yw’n bosib i ni gael ei ardystio yn organig oherwydd nid oes modd i ni wybod lle mae’r gwenyn wedi hedfan yn gyfagos.

Mae gan gwyr gwenyn pwynt toddi o 60 gradd Celsius.